CYFLOGAU ATHRAWON - YMATEB I GYHOEDDIAD LLYWODRAETH CYMRU

Mehefin 2025 

Yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf yn cynnig codiad cyflog o 4% i athrawon ac yn dilyn trafodaeth ynghylch y mater mewn cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol yr Undeb, mae UCAC yn datgan ei siom. 

 

Er bod y codiad cyflog yn ymddangos, ar yr olwg gyntaf, yn godiad sylweddol, eto i gyd rhaid nodi nad yw’r codiad hwn yn sicrhau bod cyflogau athrawon yn cymharu’n ffafriol â chyflogau eraill ac nad yw cyflogau athrawon wedi dal i fyny â’r cynnydd mawr mewn cyfraddau chwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Rydym yn wynebu argyfwng o ran recriwtio a chadw athrawon, ac er mwyn denu athrawon a’u cadw yn y proffesiwn, mae’n rhaid i gyflogau fod yn gystadleuol ac yn apelgar, gan adlewyrchu’r gofynion cynyddol sydd ar y proffesiwn.  Teimlai’r Cyngor Cenedlaethol yn gryf hefyd fod angen mynd i’r afael yn ddiymdroi â llwyth gwaith athrawon a phroblemau ymddygiad yn ein hysgolion.  Dim ond pan fydd athrawon yn derbyn amodau gwaith anrhydeddus a chyflogau teg ac yn derbyn y parch y maent yn ei haeddu y bydd modd mynd i’r afael â’r argyfwng presennol o ran recriwtio a chadw athrawon.

 

Yn ogystal â’r siom o safbwynt cynnwys yr adroddiad, mae UCAC hefyd yn siomedig na lynwyd wrth yr amserlen wreiddiol eleni eto o ran amseru’r cyhoeddiad ac nad yw’r cynnig yn cyfateb i argymhelliad CACAC, sef codiad cyflog o 4.8%.   Golyga’r oedi na fydd unrhyw godiad cyflog yn cyrraedd y gweithlu tan ymhell i mewn i Dymor yr Hydref.  Rhaid mynegi pryder a siom hefyd nad yw’r adroddiad wedi ei gyhoeddi eto yn y Gymraeg ac rydym yn gresynu fod y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.