MANIFFESTO UCAC

Hydref 2025

Ym mis Mai 2026 byddwn yn pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru. Pa neges hoffech chi ei rhoi i wleidyddion Cymru? Mae UCAC wedi paratoi ei maniffesto ar gyfer yr etholiad.

Ein prif ddyheadau ni fel undeb ar gyfer addysg yng Nghymru yw:

UCHAFSWM ORIAU GWEITHIO WYTHNOSOL
Sicrhau bod ffiniau pendant i ddiwrnod gwaith addysgwyr

CYLLID YSGOLION
Sicrhau bod ein hysgolion yn cael eu cyllido'n deg, fel bod digon o staff a digon o adnoddau

AMODAU GWAITH
Sicrhau bod addysgwyr yn gallu canolbwyntio ar eu priod waith - addysgu plant a phobl ifanc

CYMRAEG
Sicrhau bod statws haeddiannol i'r Gymraeg a bod cyfleoedd realistig a gwerthfawr i hybu ac ehangu'r defnydd ohoni

Er mwyn darllen y maniffesto yn llawn, pwyswch ar y llun isod. 

BWRSARIAETH CADW ATHRAWON CYMRAEG MEWN ADDYSG

Medi 2025 

Ydych chi'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n addysgu Cymraeg fel pwnc mewn ysgol uwchradd? 

Efallai fod cyfle i chi dderbyn bwrsariaeth o £5,0000. 

Darllenwch isod i weld a ydych yn gymwys. 

BWRSARIAETH CADW ATHRAWON CYMRAEG MEWN ADDYSG

Pwy sy’n gymwys?

I fod yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth, rhaid i athrawon fodloni’r meini prawf craidd canlynol:

  • ennill statws athro cymwysedig (SAC) o fis Awst 2020 ymlaen
  • wedi cwblhau 3 blynedd o addysgu yn dilyn dyfarniad SAC
  • wedi cychwyn ar 4edd flwyddyn o addysgu
  • wedi cwblhau naill ai 3 blynedd o addysgu Cymraeg fel pwnc mewn unrhyw ysgol uwchradd neu ysgol ganol a gynhelir yng Nghymru neu unrhyw bwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a gynhelir

Mae’r meini prawf yn berthnasol i athrawon llawn-amser a rhan-amser, lle bynnag y maent ar y raddfa gyflog athrawon a p’un ai eu bod yn cael lwfansau cyfrifoldebau ychwanegol neu beidio.

Nid yw athrawon mewn ysgolion annibynnol, colegau chweched dosbarth neu sefydliadau addysg bellach yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth.

Sut i wneud cais

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 1 Medi 2025 ac yn cau ar 30 Medi 2025.

I wneud cais, rhaid i athrawon lenwi’r ffurflen gais. Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Mae’n rhaid i athrawon gyflwyno cais o fewn 2 flynedd o fod wedi cyrraedd y 3 blynedd angenrheidiol o wasanaeth.

Manylion talu

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn £5,000 yn ystod eu 4edd flwyddyn o addysgu, gyda Llywodraeth Cymru yn talu’r holl gyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol. Nid yw’r fwrsariaeth yn bensiynadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru neu trwy gysylltu ag Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

 

 

 

CYFLE I GAEL BWRSARIAETH O £5,000

Awst 2025

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bwrsariaeth o bum mil o bunnoedd i annog athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg i aros yn y proffesiwn. Os ydych chi'n athro/athrawes uwchradd cyfrwng Cymraeg neu'n athro/athrawes sy'n addysgu Cymraeg fel pwnc, dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy am y fwrsariaeth.  Ac os ydych chi'n gymwys, dilynwch y ddolen sydd o dan y canllawiau, er mwyn cael ffurflen gais.     

Mae’r Fwrsariaeth yn gynllun peilot a fydd ar gael hyd ddiwedd 2028. 

Darllenwch y canllaw yn ddiymdroi - mae hwn yn gyfle rhy dda i'w golli!

Cynllun Bwrsariaeth Cadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg 2025: canllaw [HTML] | LLYW.CYMRU


Ffurflen gais: Cynllun Bwrsariaeth Cadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg | LLYW.CYMRU


CYFLOGAU ATHRAWON - YMATEB I GYHOEDDIAD LLYWODRAETH CYMRU

Mehefin 2025 

Yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf yn cynnig codiad cyflog o 4% i athrawon ac yn dilyn trafodaeth ynghylch y mater mewn cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol yr Undeb, mae UCAC yn datgan ei siom. 

 

Er bod y codiad cyflog yn ymddangos, ar yr olwg gyntaf, yn godiad sylweddol, eto i gyd rhaid nodi nad yw’r codiad hwn yn sicrhau bod cyflogau athrawon yn cymharu’n ffafriol â chyflogau eraill ac nad yw cyflogau athrawon wedi dal i fyny â’r cynnydd mawr mewn cyfraddau chwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Rydym yn wynebu argyfwng o ran recriwtio a chadw athrawon, ac er mwyn denu athrawon a’u cadw yn y proffesiwn, mae’n rhaid i gyflogau fod yn gystadleuol ac yn apelgar, gan adlewyrchu’r gofynion cynyddol sydd ar y proffesiwn.  Teimlai’r Cyngor Cenedlaethol yn gryf hefyd fod angen mynd i’r afael yn ddiymdroi â llwyth gwaith athrawon a phroblemau ymddygiad yn ein hysgolion.  Dim ond pan fydd athrawon yn derbyn amodau gwaith anrhydeddus a chyflogau teg ac yn derbyn y parch y maent yn ei haeddu y bydd modd mynd i’r afael â’r argyfwng presennol o ran recriwtio a chadw athrawon.

 

Yn ogystal â’r siom o safbwynt cynnwys yr adroddiad, mae UCAC hefyd yn siomedig na lynwyd wrth yr amserlen wreiddiol eleni eto o ran amseru’r cyhoeddiad ac nad yw’r cynnig yn cyfateb i argymhelliad CACAC, sef codiad cyflog o 4.8%.   Golyga’r oedi na fydd unrhyw godiad cyflog yn cyrraedd y gweithlu tan ymhell i mewn i Dymor yr Hydref.  Rhaid mynegi pryder a siom hefyd nad yw’r adroddiad wedi ei gyhoeddi eto yn y Gymraeg ac rydym yn gresynu fod y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

WYTHNOS YMWYBYDDIAETH IECHYD MEDDWL

Mai 2025

Mae hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.  Mae hi’n bwysig ein bod yn gofalu amdanom ein hunain yn gorfforol ac yn feddyliol.  Cofiwch fod UCAC ac Education  Support bob amser yn barod i’ch helpu.  Dyma becyn cymorth dwyieithog gan Education Support – beth am fwrw golwg arno: Dolen