Coronafeirws (COVID-19)

10 Mawrth 2020

Coronafeirws (COVID-19)

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod y coronafeirws (COVID-19) wedi cyrraedd Cymru a bod claf dan oruchwyliaeth.

Rydym yn dwyn i’ch sylw ganllawiau gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo ysgolion a lleoliadau addysgol eraill i roi cyngor i ddisgyblion, myfyrwyr, staff, a rhieni neu ofalwyr ynglŷn â coronafeirws:

Cymraeg: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-covid-19-ar-gyfer-lleoliadau-addysgol

Saesneg: https://gov.wales/guidance-educational-settings-about-covid-19

Yn ogystal, dyma ddatganiad a ryddhawyd gan Gymwysterau Cymru:

https://www.qualificationswales.org/cymraeg/gwybodaeth-i-randdeiliaid/schools-and-colleges/guidance-coronavirus-disease-covid-19

Cofiwch gysylltu gyda ni os ydych am drafod ymhellach.

Croeso i’r cwricwlwm – ond angen gofal wrth weithredu

28 Ionawr 2020

Croeso i’r cwricwlwm – ond angen gofal wrth weithredu

Mae undeb addysg UCAC wedi croesawu lansio canllawiau diwygiedig Cwricwlwm Cymru gan Lywodraeth Cymru heddiw (28 Ionawr), mae wedi rhybuddio bod angen talu sylw i faterion penodol wrth ddechrau ei weithredu.

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol ble mae cwricwlwm wedi’i lansio sy’n benodol i Gymru – mae hynny’n gam aruthrol ac yn deyrnged i weledigaeth y Gweinidog Addysg a gwaith diwyd y proffesiwn dysgu yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd.

“Mae’r Gweinidog ei hun wedi dweud na ddylai ysgolion ruthro i gynllunio yn sgil cyhoeddi’r ddogfennaeth heddiw – ond yn hytrach y dylent gymryd amser i ddeall y model newydd a thrafod eu gweledigaeth a’u gwerthoedd. Mae hynny’n gyngor doeth.

Darllen mwy

UCAC wedi colli un roddodd wasanaeth diflino i’r Undeb

09 Ionawr 2020

Mae UCAC wedi colli un roddodd wasanaeth diflino i’r Undeb ac i les athrawon a disgyblion ym mhob cwr o Gymru.

Bu Siân Cadifor yn ysgrifennydd sirol UCAC yn Rhondda Cynon Taf, yn aelod o’r Cyngor Cenedlaethol ac wedi cyfrannu at nifer o bwyllgorau’r Undeb dros y blynyddoedd gan gynnwys yr Adran Gydraddoldeb.

Roedd parch aruthrol iddi ymysg ein cyd-aelodau ac ymysg addysgwyr a hithau gyda chonsyrn am addysg y disgyblion a dros sicrhau lles yr athro yn ogystal ag awydd i weld Cymru’n llwyddo a’r Gymraeg yn ffynnu.

Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys gydag Elin a Rhun, ei brawd a’i chwaer, a gyda’r teulu cyfan.

Yn dilyn gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Llangrallo, cynhelir gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Tabernacl, Efail Isaf am 12pm, ddydd Sadwrn, Ionawr 25ain, 2020.

Angen gwneud defnydd doeth o ganlyniadau PISA, meddai undeb addysg

3 Tachwedd 2019

Angen gwneud defnydd doeth o ganlyniadau PISA, meddai undeb addysg

Mewn ymateb i ganlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) a gyhoeddwyd heddiw gan yr OECD, mae undeb addysg UCAC wedi galw ar bawb i wneud defnydd doeth o’r data.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae canlyniadau PISA eleni’n rhoi cyfoeth o wybodaeth i ni ynghylch gwahanol agweddau o’n system addysg. Mae’r penawdau’n rhai cymharol galonogol – a dylid llongyfarch pawb am hynny. Ond rhaid mynd y tu hwnt i’r penawdau hefyd.

“Mae’n ymddangos bod rhai o’r diwygiadau sydd wedi’u gwneud eisoes yn dechrau talu ffordd. Ond rhaid cofio bod y diwygiadau mawr i’r cwricwlwm, y trefniadau asesu a’r systemau atebolrwydd eto i’w gweithredu. Ac mae angen inni ganolbwyntio ar eu gweithredu nhw mewn modd trefnus ac effeithiol dros y blynyddoedd nesaf os ydynt am ein helpu ar ein taith tuag at wella addysg i bawb yng Nghymru.

Darllen mwy

Gwrthsefyll y Dde Eithafol

29 Hydref 2019

Gwrthsefyll y Dde Eithafol

Mae TUC Cymru wedi cynhyrchu eNodyn mewn ymateb i gynnydd yng ngweithgareddau’r dde eithafol yn ein gweithleoedd a'n cymunedau.

Mae’r adnodd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg yma:

https://www.tuc.org.uk/cy/farright

Mae’r eNodyn yn:

  • esbonio pwy yw'r dde eithafol a pham rydym ni'n eu gwrthwynebu;
  • rhoi awgrymiadau ymarferol i chi ar sut mae ymgyrchu yn erbyn y dde eithafol;
  • rhoi cyfle i chi ymarfer ateb cwestiynau anodd y gallech chi eu cael.