Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi anfon neges o gefnogaeth isod at undeb addysg yn Catalonia a hynny yn y Gatalaneg, Cymraeg a Saesneg.

28 Hydref 2019

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi anfon neges o gefnogaeth isod at undeb addysg yn Catalonia a hynny yn y Gatalaneg, Cymraeg a Saesneg.

Annwyl Frodyr a Chwiorydd,

Rwy’n ysgrifennu atoch yn rhinwedd fy swydd fel Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC).

Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid a darlithwyr dros Gymru gyfan – yr unig undeb llafur sydd ar gyfer Cymru yn benodol.

Mae’r ohebiaeth hwn mewn ymateb i’r cais gennych am undod o fewn Catalonia a thu hwnt i’r egwyddorion hynny sy’n arwain at alw am ryddhau carcharorion gwleidyddol Catalonia sy’n gaeth oherwydd anghyfiawnder.

Rydym yn condemnio’r bygythiad parhaus i bobol Catalonia ac yn cefnogi eich datganiad mai ‘ein dyletswydd bob amser yw hyrwyddo deialog, ysbryd beirniadol, parch at amrywiaeth, cyfranogiad dinasyddion mewn materion cyhoeddus, a datrys gwrthdaro yn ddemocrataidd’.

Rydym yn sefyll gyda chi fel Undeb sy’n credu’n gryf yn rôl a phŵer addysg i hyrwyddo’r egwyddorion a’r dyletswyddau uchod, ac i feithrin cenedlaethau o ddinasyddion egwyddorol, cydwybodol a chreadigol yn ein gwledydd.

Byddwn, wrth reswm, yn meddwl amdanoch ar adeg mor anodd.

Darllen mwy

Croeso i godiad cyflog ond nid ar draul toriadau i gyllidebau ysgolion

22 Hydref 2019

Croeso i godiad cyflog ond nid ar draul toriadau i gyllidebau ysgolion

Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC ar 22 Hydref ynghylch dyfarniad cyflog i athrawon ysgol ar gyfer 2019-20, mae undeb athrawon UCAC wedi rhybuddio na ddylai’r codiad cyflog ddod ar draul toriadau pellach i gyllidebau ysgolion.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Er ein bod ni wedi galw am godiad cyflog o 5% i bawb yn y proffesiwn, mae UCAC yn cydnabod bod y dyfarniad o 2.75% yn symud i gyfeiriad adfer gwerth cyflogau athrawon.

“Rydym yn croesawu, yn ogystal, y ffaith bod y Gweinidog wedi rhagori ar argymhelliad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, sef 2.4%.

Darllen mwy

Meddwlgarwch

10 Hydref 2019
 

Meddwlgarwch

Cefais y fraint yn ddiweddar o fynychu cyfarfod yn dwyn y teitl ‘Cymru: Gwlad ofalgar?’, oedd wedi ei drefnu ar gyfer pawb sy’n ymwneud ag addysg, er mwyn creu gweledigaeth a strategaeth fydd yn sicrhau effaith ymwybyddiaeth ofalgar yng Nghymru.
 
Roedd y grŵp wedi cyfarfod yn gynharach ym mis Mai er mwyn bwrw’r cwch yn ddyfnach i’r dŵr o ran iechyd a lles yn y byd addysg yma yng Nghymru.
 
Beth yw meddwlgarwch o fewn cyd-destun ysgol?
 
Meddwlgarwch yw dysgu i dalu sylw i’n profiadau wrth iddynt ddigwydd, a hynny gyda chwilfrydedd a derbyniad ac yn ystod y dydd cafwyd cyfle ardderchog i glywed fel roedd ymarferwyr amrywiol wedi dechrau ymgorffori meddwlgarwch yn eu hawdurdodau lleol, a’u hysgolion.

Darllen mwy

Cynllun Pensiwn Athrawon - Dyfarniad McCloud

25 Medi 2019
 

Cynllun Pensiwn Athrawon - Dyfarniad McCloud

Bydd rhai ohonoch wedi bod yn ystyried oblygiadau’r achos apêl yn ymwneud â phensiynau’r sector cyhoeddus sy’n cael ei adnabod fel achos McLoud.

Yn dilyn cyflwyno ‘diwygiadau’ pensiwn ym 2015 bu newidiadau i bensiwn sâl sector gan gynnwys pensiynau athrawon. Ym mis Rhagfyr 2018 bu i’r Llys Apêl ddyfarnu bod y ‘diogelu trosiannol’ oedd yn cael i gynnig i aelodau rhai cynlluniau i ddiffoddwyr tân a barnwyr yn wahaniaethu anghyfreithlon.

Mae’r Cynllun Pensiwn Athrawon wedi cynnig diweddariad o ran y dyfarniad ar ei gwefan ac mae’r wybodaeth ar gael yma:

https://www.teacherspensions.co.uk/news/public-news/2019/09/mccloud-case-be-reassured-about-your-pension.aspx

Gwell pwyllo na rhuthro, meddai UCAC

20 Medi 2019
 

Gwell pwyllo na rhuthro, meddai UCAC

Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC ar 17 Medi ynghylch gohirio cyflwyno’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd am flwyddyn, mae undeb athrawon UCAC wedi dweud ei fod yn cytuno ei fod yn well pwyllo.

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Er bod y cyhoeddiad yn annisgwyl, mae UCAC yn croesawu’r flwyddyn ychwanegol i sicrhau y caiff y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd ei gyflwyno mewn modd trefnus ac effeithiol.

“Mae’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ganllaw hollbwysig ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r system, ac mae’n eithriadol o bwysig ei fod yn addas at y pwrpas. Mae nifer o faterion ble bydd modd elwa o’r amser ychwanegol i sicrhau trafodaeth lawn a manwl ac i gytuno ar egwyddorion craidd.

“Yn ogystal, gall y flwyddyn ychwanegol roi amser i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru edrych ar dâl ac amodau gwaith Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r gofynion newydd.

“Pan mae diwygiadau mawr ar y gweill, mae UCAC o’r farn ei fod yn well pwyllo a’u gwneud yn gywir. Felly pwyswn ar bawb i barchu’r amserlen newydd, ac i wneud yn fawr o’r cyfle i ymbaratoi’n fwy trwyadl.”